BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gyrru a reidio yn ddiogel yn y gwaith – canllawiau wedi’u diweddaru gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

I’r rhan fwyaf o bobl, gyrru cerbyd neu fynd ar feic modur neu feic yw’r gweithgarwch gwaith peryclaf maen nhw’n ei wneud. Mae oddeutu traean yr holl wrthdrawiadau traffig ffyrdd ym Mhrydain yn ymwneud â rhywun yn gyrru neu’n reidio fel rhan o’u swydd ac mae llawer iawn o ddamweiniau eraill yn digwydd i bobl yn teithio i’r gweithle neu oddi yno.

Er na ellir rheoli’r risgiau yn llwyr, mae’n rhaid i gyflogwyr neu gwmnïau sy’n cyflogi gyrwyr a beicwyr modur neu feicwyr, gan gynnwys y rhai yn y sector adeiladu, gymryd pob cam rhesymol i reoli’r risgiau hyn a gwneud popeth sy’n rhesymol ymarferol i ddiogelu pobl rhag niwed yn yr un ffordd ag y byddan nhw’n ei wneud mewn gweithle penodol.

Mae tudalennau gwefan newydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi’u creu yn dilyn ymgynghoriad yr Awdurdod a’r Adran Drafnidiaeth gyda rhanddeiliaid.

Maen nhw’n cynnwys canllawiau clir a syml i gyflogwyr a’r rhai sy’n cyflogi gyrwyr, beicwyr modur a beicwyr ar sut i sicrhau bod y daith, y gyrrwr a’r cerbyd yn ddiogel a chanllawiau i weithwyr a’r rhai sy’n gyrru cerbyd neu’n mynd ar feic neu feic modur fel rhan o’u gwaith ar eu cyfrifoldebau nhw.

Mae’r tudalennau’n cynnwys canllawiau i gyflogwyr a gweithwyr. Am ragor o wybodaeth ewch i: Driving and riding safely for work - HSE


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.