BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hawliau Dynol a Busnes

Hawliau a rhyddid hanfodol yw hawliau dynol sydd yn ein diogelu ni oll. Seilir nhw ar urddas, tegwch, cydraddoldeb a pharch. Mae gan fusnesau effaith sylweddol ar ein bywyd a sut rydym yn mwynhau’r hawliau dynol hyn, boed fel cyflogai, cwsmer neu dim ond wrth fyw ochr yn ochr â chwmnïau sydd yn rhannu’n dinasoedd a’n trefi.

Pan fydd pobl yn meddwl am gamdriniaethau hawliau dynol yn gysylltiedig â gweithgareddau busnes efallai byddan nhw’n meddwl am slafdai mewn gwledydd tramor ble bo llafur plant ac amodau gweithio anniogel yn gyffredin. Yn glir, mae angen i gwmnïau yn y DU gymryd sylw agos o’u cadwynau cyflenwi ond gall busnesau effeithio ar hawliau dynol pobl mewn ffyrdd mwy cynnil, gartref a thramor. Bydd angen i gwmnïau gyda phresenoldeb ar-lein sicrhau eu bod yn parchu hawliau pobl i breifatrwydd a chynnal cyfreithiau diogelu data, mae angen i ddarparwyr gofal cartref drin y bobl sydd dan eu gofal ag urddas a pharch ac mae gan bob busnes rwymedigaeth i sicrhau amodau gweithio diogel i’w staff.

Mae gan bob busnes – mawr neu fach – yn y DU gyfrifoldeb i barchu hawliau dynol. Mae Egwyddorion Arweiniol y CU ar Fusnes a Hawliau Dynol yn galw ar fusnesau i ymrwymo’n gyhoeddus i barchu hawliau dynol, i roi sylw dyledus i hawliau dynol, a darparu unioniad pan aiff pethau o chwith. 

Heblaw am fod y peth priodol i’w wneud, mae hefyd yn gwneud synnwyr busnes i barchu hawliau dynol. Gall busnesau gael eu hunain mewn achosion cyfraith, yn dioddef niwed ar enw da’r cwmni ac yn colli allan ar gyfleoedd busnes a buddsoddi yn ogystal â’r cyfle o recriwtio’r cyflogeion newydd gorau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.equalityhumanrights.com/cy/advice-and-guidance/hawliau-dynol-busnes

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.