BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Helpu busnesau i baratoi ar gyfer Rheolaeth Tollau llawn ym mis Ionawr 2022

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn annog busnesau'r DU i baratoi ar gyfer newidiadau i dollau a fydd yn cael eu cyflwyno dros y 6 mis nesaf.

Bydd dros 160,000 o fusnesau yn derbyn llythyr gan CThEM yn esbonio'r camau y dylent eu cymryd i sicrhau y gallant barhau i fasnachu â'r UE.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwneud datganiadau atodol
  • penodi cyfryngwr tollau
  • gofynion Tystysgrif Iechyd Allforio

Bydd CThEM hefyd yn cysylltu â chwsmeriaid dros y misoedd nesaf gyda rhagor o fanylion am yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i baratoi ar gyfer cyflwyno datganiadau tollau llawn, o 1 Ionawr 2022.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.