BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Helpu i gefnogi Cadernid Ariannol a Lles eich staff

Mae pandemig y Coronafeirws wedi amlygu’n hallt pa mor fregus yw sefyllfa ariannol pobl heb gynilion neu rai sydd â dim ond ychydig o arian wrth gefn. Ni fu erioed amser gwell nag yn awr i wella lles ariannol eich gweithlu ac mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i gyflogwyr helpu drwy bartneru ag undeb credyd i gynnig cynllun cynilo i’r rheini ar gyflogres y gweithle a mynediad at gredyd fforddiadwy. 

Mae cynlluniau cynilo cyflogres yn hawdd eu sefydlu ac mae’n rhad ac am ddim i fod yn bartner ynddynt. Maen nhw’n ffordd effeithiol dros ben o greu rhwyd diogelwch ariannol, gan helpu pobl i ymdopi’n well ag ergydion ariannol tymor byr a lleihau pryderon a gofidiau ynghylch arian. 

Yng Nghymru, mae 16 o undebau credyd yn cynnig cynlluniau cynilo cyflogres, ac mae pob un ohonynt yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau benthyca a chynilo fforddiadwy a chyfrifol, drwy eu swyddfeydd neu ar-lein. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi undebau credyd ers blynyddoedd lawer ac erbyn hyn mae mwy na 140 o sefydliadau ledled Cymru’n cynnig cynlluniau cynilo cyflogres i’w gweithwyr. 

Os hoffech chi gofrestru i gynnig cynllun cynilo yn eich gweithle, cysylltwch â’ch undeb credyd lleol, drwy ddefnyddio’r ddolen hon: Partner Cyflogau - Credit Unions of Wales neu anfonwch e-bost i: enquiries@creditunionsofwales.co.uk.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.