Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn eich gwahodd i lenwi holiadur am ddyfodol datblygiad rhanbarthol yng Nghymru, a’i rannu gyda’ch rhwydwaith, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chysylltiadau. Mae’r fenter hon yn rhan o gydweithrediad rhwng yr OECD a Llywodraeth Cymru.
Drwy rannu eich meddyliau am yr heriau a’r blaenoriaethau mewn perthynas â datblygiad economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a chymunedol, gallwch helpu i lunio dyfodol Cymru a chymunedau lleol Cymru!
Bydd eich ymatebion yn darparu syniadau allweddol ar gyfer gweithdy gosod y weledigaeth mewn perthynas â datblygiad rhanbarthol gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill gan gynnwys awdurdodau lleol, y sector preifat a’r trydydd sector etc. Hwylusir y gweithdy hwn gan yr OECD. Bydd eich safbwynt yn helpu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru i wella gwasanaethau, gwella llesiant cymdeithasol ac economaidd a gwella ansawdd bywyd ledled Cymru.
Neilltuwch oddeutu 10 munud i lenwi’r holiadur llawn.
Cliciwch ar y ddolen hon i gael mynediad at yr holiadur:
https://survey.oecd.org/index.php?r=survey/index&sid=741948&lang=en
Mae’r holiadur ar gael yn Saesneg yn unig, ymateb erbyn 9 Mawrth 2022.