BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio Clwstwr y Môr Celtaidd

Hoffai Dr Steve Wyatt, Cyfarwyddwr RDI yn y Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr a Chadeirydd Clwstwr Gwynt Arnofiol y Môr Celtaidd, eich gwahodd i lansiad rhithwir am ddim Clwstwr y Môr Celtaidd. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar ffrwd byw ar Teams o Westy Voco St Davids, Caerdydd.

Ychydig iawn o bobl sy’n cael bod yn bresenol yn y digwyddiad byw oherwydd cyfyngiadau COVID ac mae'n ôl disgresiwn y trefnydd.

Yn y digwyddiad hwn, bydd Gweinidogion, ynghyd â siaradwyr o Lywodraeth Cymru, Partneriaeth Menter Leol Cernyw ac Ynysoedd y Scilly, Ystâd y Goron, a Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr yn disgrifio'r manteision economaidd a allai ddeillio o ddefnyddio gwynt arnofiol ar y Môr Celtaidd, yn trafod y materion rheoleiddio, yn disgrifio beth yw'r clwstwr a sut y bydd yn gweithredu, ac yn esbonio sut y gallwch gymryd rhan a helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r sector.

Drwy gofrestru rydych yn cytuno i'ch manylion gael eu cadw gan y Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr ar ran y Clwstwr a chydnabod y bydd y digwyddiad ar-lein yn cael ei gofnodi.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Mawrth 28 Medi 2021 rhwng 1.30pm a 4pm, bydd eich cofrestriad yn cael ei nodi a bydd cyswllt Teams ar gyfer presenoldeb ar-lein yn cael ei anfon ar ôl i'r cofrestriad ddod i ben ar 24 Medi 2021. 

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i  Eventbrite


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.