Mae Llywodraeth y DU wedi lansio cronfa gwerth £40 miliwn i sbarduno chwyldroadau digidol lleol a datgloi buddion 5G ledled y DU.
Gall awdurdodau lleol a rhanbarthol wneud cais am gyfran o'r gronfa gwerth miliynau o bunnoedd, a gynlluniwyd i gyflymu arloesedd mewn sectorau fel gweithgynhyrchu uwch, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus, gan helpu i greu lleoedd cysylltiedig gwell ledled y DU.
Bydd yr hwb ariannol yn creu Rhanbarthau Arloesi 5G trwy ddyfarnu cyllid i feysydd a all ddangos sut y byddant yn hybu datblygu a mabwysiadu 5G a thechnolegau eraill. Bydd hyn yn sicrhau bod cymunedau mewn trefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig ledled y DU yn manteisio'n llawn ar y buddion y gall cysylltedd diwifr uwch a thechnolegau digidol eu darparu, yn ogystal â denu buddsoddiad masnachol i dyfu'r economi.
Gallai'r defnydd o'r dechnoleg gynnwys cysylltu synwyryddion sy'n dadansoddi a helpu i wella ansawdd aer trwy reoli traffig yn well, a defnyddio dronau wedi'u galluogi â 5G sy'n gallu sganio caeau a chnydau, gan gasglu data ar dywydd ac amodau amgylcheddol.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau (bydd y gystadleuaeth yn cau) yw 23:59, 10 Medi 2023.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol 5G Innovation Regions: open for applications - GOV.UK (www.gov.uk)