BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio cynllun mentora newydd i hybu allforwyr bwyd y DU

Mae rhaglen fentora newydd i helpu ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd y DU i gynyddu eu hallforion wedi’i lansio gan yr Adran Masnach Ryngwladol.

Bydd y rhaglen, a gynhelir mewn partneriaeth â’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), yn paru allforwyr profiadol gyda busnesau sy’n gobeithio allforio am y tro cyntaf.

Bydd y mentoriaid yn rhoi cymorth a chyngor ymarferol i ddarpar allforwyr drwy gyfarfodydd ford gron, sesiynau mentora a chylchlythyrau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.