BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llythyr i fusnesau Cymru gan Ken Skates ynglŷn â diwedd y Cyfnod Pontio a'r UE

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates wedi cyhoeddi llythyr yn tynnu sylw tuag at Borth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru yn ogystal i draciwr mae Llywodraeth y DU wedi datblygu.

Mae Porth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru yn ffynhonnell ganolog ar gyfer cyngor ac arweiniad i fusnesau sy'n paratoi ar gyfer y berthynas fasnachu newydd, gan gynnwys gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf.

Mae traciwr Llywodraeth y DU ar gael i fusnesau i'w ddefnyddio i gael rhestr bersonol o gamau gweithredu.  Bydd yr offeryn gwirio yn gofyn cwestiynau am eich busnes ac yn darparu'r holl wybodaeth y mae angen ichi fod yn ymwybodol ohoni.

Mae hefyd yn tynnu sylw at ddogfennau wedi eu datblygu gan Lywodraeth y DU sy'n ymdrin â’r camau y dylai busnesau eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau newydd:

  • Mae Brexit Transition Changes – Actions for Businesses yn rhoi trosolwg o’r camau gweithredu allweddol ar gyfer busnesau yn ogystal â chanllawiau ategol, rhifau llinell gymorth a chwestiynau cyffredin.
  • Mae’r ddogfen Sector Specific Brexit Transition Actions yn rhestru'r prif bum cam gweithredu ar gyfer busnesau ym mhob un o'r sectorau canlynol: awyrofod, modurol, cemegion, adeiladu, nwyddau traul, electroneg a pheiriannau, y gwyddorau bywyd, metelau a deunyddiau, gwasanaethau busnes proffesiynol a manwerthu. Mae’n eich annog i ddarllen y dogfennau hyn yn fanwl.

Darllenwch y llythyr yn ei gyfanrwydd yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.