BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llythyrau i fusnesau ynghylch mewnforio ac allforio nwyddau rhwng Prydain Fawr a’r UE

Llythyrau oddi wrth CThEM i fusnesau ym Mhrydain Fawr sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ac sy’n masnachu â’r UE. Mae’r llythyrau hyn yn tynnu sylw at y rheolau newydd, a’r camau newydd i’w cymryd, o ran mewnforio nwyddau o’r UE neu allforio nwyddau i’r UE.

Anfonwyd y llythyrau hyn at fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ym Mhrydain Fawr ac sy’n masnachu â’r UE, neu’r UE a gweddill y byd.

Maent yn esbonio’r hyn y mae angen i fusnesau ei wneud er mwyn cydymffurfio â’r rheolau a’r prosesau newydd ar gyfer symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a’r UE, gan gynnwys:

  • gwneud yn siŵr bod gan fusnesau rif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) yn y DU
  • sicrhau bod busnesau’n barod i wneud datganiadau tollau
  • gwirio a yw nwyddau busnesau’n gymwys ar gyfer y cyfraddau tollau sero ffafriol
  • paratoi ar gyfer diwedd rheolaethau mewnforio fesul cam ar 1 Ionawr 2022

Gall busnesau gael yr wybodaeth ddiweddaraf am fasnachu â’r UE drwy gofrestru i gael diweddariadau drwy e-bost gan CThEM.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Llythyrau i fusnesau ynghylch mewnforio ac allforio nwyddau rhwng Prydain Fawr a’r UE - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.