BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru yn cadarnhau newidiadau i deithio rhyngwladol ac yn galw i gadw profion PCR

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn uno’r rhestrau teithio gwyrdd ac oren ac yn dileu’r gofyniad am brawf cyn ymadael i’r rhai sydd wedi’u brechu’n llawn.

Mae’n bwriadu gwneud y newidiadau erbyn 4 Hydref 2021 yn unol â system newydd Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried i ba wledydd y bydd yn estyn y system adnabod tystysgrifau brechu yn ystod yr wythnosau nesaf.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.