BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i amddiffyn busnesau rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Medi 2021

Bydd busnesau sy’n dioddef effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Medi 2021.

Un o’r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno er mwyn cefnogi busnesau yw estyn y moratoriwm ar fforffedu tenantiaeth am beidio â thalu rhent tan 30 Medi 2021. Roedd y moratoriwm hwnnw i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Mehefin 2021.

Bydd y cam hwn yn fodd i sicrhau, tan 30 Medi eleni, na fydd busnesau’n fforffedu eu tenantiaethau busnes am beidio â thalu rhent, ond dylent barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo modd, ac mae er budd landlordiaid a thenantiaid fel ei gilydd i drafod ac i gytuno ar sut i fynd i’r afael ag unrhyw ôl-ddyledion.

Bydd y mesur hwn yn helpu amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys sectorau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ar adeg sy'n parhau’n gyfnod masnachu hynod heriol, tra bydd y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r Coronafeirws yn cael eu llacio.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.