Mae troseddau casineb yn drosedd a gyflawnwyd yn erbyn rhywun oherwydd eu:
- Hil
- Crefydd
- Tueddfryd Rhywiol
- Anabledd
- Hunaniaeth Drawsryweddol
Gelwir y rhain yn nodweddion gwarchodedig. Gallwch brofi troseddau casineb yn seiliedig ar un neu fwy o'r uchod, neu os tybiwyd bod gennych un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig hyn.
Gall troseddau casineb ddigwydd yn unrhyw le. Gallai fod yn y gweithle, mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn cymdogaethau a hyd yn oed ar-lein. Mae’n bwysig ein bod yn sefyll gyda’n gilydd yn erbyn troseddau casineb.
Os ydych chi'n dioddef trosedd casineb, gall ein cefnogaeth annibynnol a chyfrinachol rhad ac am ddim eich helpu i ymdopi ac adfer ar ôl effaith trosedd.
Cysylltwch â ni:
- Ffoniwch - gallwch ein ffonio’n rhad ac am ddim heddiw 24/7 365 diwrnod y flwyddyn ar 0300 3031 982
- E-bost - gallwch anfon e-bost atom yn Casineb.CrimeWales@victimsupport.org.uk
- Sgwrsio Byw - bellach mae gennym gyfleuster sgwrsio byw ar gael ar ein prif wefan
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Troseddau Casineb Cymru - Ganolfan Adrodd a Chefnogi Troseddau Casineb Cenedlaethol
Mewn argyfwng dylech gysylltu â'r Heddlu bob amser ar 999. Os nad yw’n argyfwng, gallwch gysylltu â'ch heddlu lleol ar 101.