BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025 ar agor

Karen on an off road bike

Bydd Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd yng ngwanwyn 2025. Mae'r gwobrau yn cael eu cynnal gan Croeso Cymru i ddathlu'r gorau o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Bydd enillwyr Gwobrau Rhanbarthol 2024 yn mynd drwodd i'r Gwobrau Cenedlaethol (Cymru) ym mis Mawrth 2025 a bydd angen i chi wneud cais drwy eich gwobrau twristiaeth sir/rhanbarthol i gael eich ystyried.

Mae'r categorïau ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2025 fel a ganlyn:

  • Gwesty Gorau
  • Llety Gwely a Brecwast, Tafarn, Tŷ Llety Gorau
  • Llety Hunanddarpar Gorau
  • Safle Carafanio, Gwersylla a Glampio Gorau
  • Yr Atyniad Gorau
  • Gweithgaredd, Profiad neu Daith orau
  • Categori Bro a Byd (Y rhai sy'n mynd y filltir ychwanegol ar gynaliadwyedd amgylcheddol)
  • Gwobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol
  • Y Lle Gorau i Fwyta
  • Seren y Dyfodol
  • Y Digwyddiad Gorau
  • Busnes Cyfeillgar i Gŵn Gorau

I gofrestru ac i gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod yn dibynnu ar ble rydych wedi'ch lleoli.

De-orllewin Cymru:

  • Sir Benfro – Sylwch y dylai'r rhai sydd wedi'u lleoli yn Sir Benfro ymgeisio drwy Wobrau Croeso Sir Benfro. Y dyddiad cau ar gyfer y Gwobrau Croeso yw’r 30 Gorffennaf 2024.
  • Sir Gaerfyrddin – Ymgeisiwch drwy Wobrau Twristiaeth Dde Orllewin Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 18 Awst 2024.
  • Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot – Cofrestrwch drwy Wobrau Twristiaeth Bae Abertawe. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner nos ar 18 Awst 2024.

De-ddwyrain Cymru:

Canolbarth Cymru:

Gogledd Cymru:

  • Gwobrau Go North Wales – Bydd gwobrau Go North Wales yn mynd yn fyw ar 1 Awst a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 7 Hydref 2024.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.