Mae cofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn ofyniad hanfodol i bobl ag incwm heb ei drethu.
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn atgoffa unrhyw un sy'n newydd i Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 fod ganddynt tan 5 Hydref i ddweud wrth CThEF a chofrestru.
Gallai cwsmeriaid Hunanasesiad newydd fod yn rhywun sydd wedi ennill arian mewn ffordd amgen yn ychwanegol at eu swydd TWE neu wedi gwaredu asedau crypto; efallai eu bod newydd ddod yn hunangyflogedig neu'n landlord newydd sy'n rhentu eiddo. Beth bynnag fo'r amgylchiadau, os oes gan gwsmer unrhyw incwm nad yw eisoes wedi talu treth y DU arno, mae angen iddo gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Gall cwsmeriaid ddefnyddio offeryn gwirio CThEF ar-lein ar GOV.UK i asesu'n gyflym a fydd angen iddynt lenwi ffurflen dreth. A gallant ddefnyddio'r canllaw cam wrth gam i wirio beth sydd angen iddynt ei wneud i gyflwyno eu ffurflen dreth Hunanasesiad gyntaf.
Y dyddiad cau i gwsmeriaid gyflwyno eu ffurflen dreth ar-lein a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 yw 31 Ionawr 2024.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol It’s time to register for Self Assessment, says HMRC - GOV.UK (www.gov.uk)