BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Manteisiwch ar Bàs COVID y GIG i ddangos eich statws brechu er mwyn teithio

Sut gallwch brofi eich bod wedi cael dos llawn y brechlyn er mwyn teithio’n rhyngwladol.

Bydd pobl sy’n byw yng Nghymru sydd wedi cael y brechlyn COVID yn gallu gweld eu statws brechu ar y rhyngrwyd o heddiw ymlaen (25ain Mehefin 2021) i gynhyrchu Pàs COVID y GIG ar gyfer teithio rhyngwladol allanol ar frys.

Mae Pàs COVID y GIG yn eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael brechlyn COVID-19 pan fyddwch yn teithio dramor.

Gwiriwch y ofynion mynediad megis profion COVID-19 a hunanynysu yn y gwledydd yr ydych yn bwriadu ymweld â nhw (ar GOV.UK).

Bydd angen ichi barhau i ddilyn rheolau eraill pan fyddwch yn teithio, megis profion cyn ymadael.

Gallwch gael Pàs digidol COVID y GIG:

  • os cawsoch eich brechu yng Nghymru
  • os ydych yn 16 oed neu’n hŷn

Rydym yn argymell eich bod yn cael y Pàs COVID digidol yn hytrach na chopi caled.

Byddwch yn gallu ei ddangos ar eich ffôn, ar lechen neu ar liniadur.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.