BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Manteisiwch ar y pigiad atgyfnerthu i’ch diogelu rhag yr amrywiolyn newydd

Dylai pawb fanteisio ar eu pigiad atgyfnerthu COVID-19, dyna neges y Prif Weinidog wrth iddo rybuddio bod Cymru’n wynebu ton newydd o heintiau o ganlyniad i’r amrywiolyn Omicron.

Yn ei gynhadledd i’r wasg yn dilyn yr adolygiad 21 diwrnod, sydd i’w gynnal ddydd Gwener (10 Rhagfyr 2021), bydd y Prif Weinidog yn dweud er mai dim ond llond llaw o achosion sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru hyd yma, bod angen inni fod yn barod i weld achosion yn cynyddu’n gyflym iawn.

Cafodd yr achosion cyntaf o omicron eu darganfod yn Ne Affrica ychydig dros bythefnos yn ôl. Mae wedi lledaenu’n gyflym ar draws y byd, gan gynnwys i’r Deyrnas Unedig. Nawr mae’r amrywiolyn yn lledaenu yn y gymuned mewn sawl ardal yn Lloegr ac yn yr Alban.

Mae sawl peth arall y gall pobl ei wneud i helpu i amddiffyn eu hunain rhag coronafeirws, gan gynnwys yr amrywiolyn omicron newydd.

Bydd y Prif Weinidog yn gofyn i bobl gymryd profion llif unffordd cyn mynd allan a gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob lleoliad cyhoeddus o dan do i helpu i ddiogelu pobl yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Bydd Cymru’n aros ar lefel rhybudd sero ar ôl yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau COVID. Fodd bynnag, o ganlyniad i ledaeniad yr amrywiolyn omicron, mae Llywodraeth Cymru’n cynghori’n gryf y dylai pobl wneud y canlynol:

  • Gwneud prawf llif unffordd cyn mynd allan – i barti Nadolig; i siopa Nadolig; i ymweld â ffrindiau neu deulu; i unrhyw le prysur neu cyn teithio.
  • Aros adref os yw’r prawf yn bositif. Dylech drefnu prawf PCR a hunanynysu.
  • Pobl i wisgo gorchuddion wyneb mewn tafarndai a bwytai, pan nad ydynt yn bwyta nac yn yfed. Rhaid i bawb wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus dan do eraill, yn unol â'r gyfraith, gan gynnwys mewn sinemâu a theatrau.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.