Mae CThEM yn cynghori busnesau ynghylch newidiadau i’r ffordd y byddwch yn gwneud datganiadau tollau o 1 Ionawr 2022 a sut y byddant yn effeithio arnoch chi wrth brynu neu werthu nwyddau rhwng Prydain Fawr a’r UE o’r Flwyddyn Newydd.
O 1 Ionawr 2022, ni fyddwch mwyach yn gallu oedi cyn gwneud datganiadau tollau o dan y Rheolau Tollau Fesul Cam sydd wedi bod yn gymwys yn ystod 2021. Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o gwsmeriaid wneud datganiadau a thalu tariffau perthnasol yn y pwynt mewnforio.
Cyn 1 Ionawr 2022, dylech ystyried sut rydych chi am gyflwyno’ch datganiadau tollau. Gallwch benodi cyfryngwr, fel asiant tollau, i ddelio gyda’ch datganiadau ar eich rhan neu gallwch eu cyflwyno eich hunan. Am ragor o wybodaeth, ewch i
https://www.gov.uk/guidance/appoint-someone-to-deal-with-customs-on-you…
Mae gan rai busnesau eisoes awdurdodiad ‘Datganiadau wedi’u Symleiddio’ gan CThEM sy’n galluogi i’w nwyddau gael eu rhyddhau yn uniongyrchol i weithdrefn dollau benodol heb orfod darparu datganiad tollau llawn ar y pwynt rhyddhau.
- Os ydych chi am ddefnyddio Datganiadau wedi’u Symleiddio, byddwch angen awdurdodiad i wneud hynny. Gall gymryd hyd at 60 diwrnod calendr i gwblhau’r archwiliadau ar gyfer hyn ac felly efallai na fydd cais newydd a wneir nawr yn cael ei awdurdodi cyn 1 Ionawr 2022. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/guidance/using-simplified-declarations-for-imports
- Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cod gwlad cywir ar gyfer y wlad tarddiad a’r wlad anfon pan fyddwch chi’n cwblhau datganiad tollau. I wledydd yr UE, dylid defnyddio cod gwlad unigol yr aelod wladwriaeth berthnasol. Ni ddylid defnyddio cod gwlad yr UE a bydd yn cael ei ddileu o systemau maes o law.
Lle i gael cymorth wrth fewnforio ac allforio
Mae gan CThEM weminarau amrywiol a fideos YouTube ar fewnforio ac allforio gyda’r UE y gallwch eu gwylio drwy fynd i’r dudalen cymorth a chefnogaeth ar gyfer cyfnod pontio'r DU.
Os ydych chi’n allforio i’r UE, mae’r Gwasanaeth Cymorth Allforio a lansiwyd yn ddiweddar gan y llywodraeth yn wasanaeth am ddim sy’n rhoi mynediad i chi at gymorth ar-lein a chymorth dros y ffôn. Gallwch ei ddefnyddio yn GOV.UK neu drwy ffonio 0300 303 8955 lle byddwch yn cael eich rhoi mewn cysylltiad ag aelod o’r tîm cymorth allforio ymroddedig.