BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Masnachu gyda’r UE: 6 cham allweddol ar gyfer eich busnes

Wrth i’r DU ddechrau o’r newydd y tu allan i’r UE, mae camau amrywiol sy’n rhaid i fusnesau eu cymryd i baratoi i osgoi unrhyw darfu posibl i’w gweithrediadau.

Dyma’r 6 cham allweddol sy’n rhaid i sawl cwmni eu cymryd:

  1. Nwyddau – os ydych chi’n mewnforio neu allforio nwyddau i’r DU, mae’n rhaid i chi gael rhif EORI, gwneud datganiadau tollau neu gyflogi asiant i’w gwneud i chi, gwirio a oes angen papurau ychwanegol ar eich nwyddau (fel cynhyrchion planhigion neu anifeiliaid) a siarad gyda’r busnes UE rydych chi’n masnachu gydag ef i sicrhau ei fod yn cwblhau’r gwaith papur UE cywir. Mae rheolau arbennig hefyd sy’n gymwys i Ogledd Iwerddon. Mae’n rhaid i gludwyr gael Trwydded Mynediad i Gaint a chael prawf COVID negyddol cyn cyrraedd porthladd yng Nghaint.
  2. Gwasanaethau – os ydych chi’n darparu gwasanaethau i’r UE, mae’n rhaid i chi wirio a yw’ch cymhwyster proffesiynol yn cael ei gydnabod gan y rheolydd UE priodol.
  3. Pobl – os ydych chi angen cyflogi staff o’r UE, mae’n rhaid i chi ddod yn noddwr trwyddedig.
  4. Teithio – os ydych chi angen teithio i’r UE ar gyfer busnes, mae’n rhaid i chi wirio a ydych chi angen fisa neu drwydded gweithio.
  5. Data – os yw’ch nwyddau yn cael eu diogelu gan Eiddo Deallusol, bydd angen i chi wirio’r rheolau newydd ar gyfer nwyddau sy’n cael eu diogelu fel Eiddo Deallusol a allforir yn yr un modd o’r DU i’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein. Rydych chi mewn perygl o dorri hawliau Eiddo Deallusol os nad ydych chi’n dilyn y rheolau newydd.
  6. Adrodd a rhoi cyfrif – os oes gan eich busnes bresenoldeb yn yr UE efallai y bydd angen i chi newid sut rydych yn adrodd a rhoi cyfrif er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r gofynion perthnasol.

Dylai’r 6 cham allweddol hyn dywys pob busnes bach sy’n cael eu heffeithio gan y rheolau newydd, gyda chyngor mwy manwl, personol ar gael drwy’r adnodd gwirio ar gov.uk/transition.

I gefnogi cwmnïau ymhellach, mae cyfres o fideos newydd ar alw ar gael i helpu busnesau i ymgyfarwyddo â’r rheolau newydd. Mae pynciau yn cynnwys mewnforio ac allforio, masnachu, data, ac archwilio a chyfrifyddu.

I ddysgu mwy am sut i baratoi’ch busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.