BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Masnachu gyda’r UE: canllawiau newydd a gweminarau ar gyfer busnesau

Mewnforio ac Allforio

Yr adnodd Masnachu gyda'r DU: Mae’r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth ar gyfer busnesau sy’n allforio nwyddau i’r DU, gan gynnwys trethi, tariffau, codau nwyddau a rheoliadau. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer nwyddau sy’n mynd i Ogledd Iwerddon.

Yr adnodd Gwirio sut mae Allforio Nwyddau: mae’r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth ar gyfer allforwyr y DU am dollau, rheolau tarddiad a gweithdrefnau tollau i dros 160 marchnad bedwar ban byd. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth fanwl am ffin y DU.

Symud nwyddau

Dywedwch wrth CThEM y byddwch chi’n mynychu cyfleuster ffin fewndirol: Defnyddiwch y gwasanaeth hwn, os ydych chi’n gludwr, yn anfon nwyddau ymlaen neu’n yrrwr, i ddweud wrth CThEM, ymlaen llaw, eich bod yn mynychu cyfleuster ffin fewndirol. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.  

Gweminarau

Gweminarau ar gyfer busnesau sy’n masnachu gyda’r UE: Ewch i wefan GOV.UK i weld rhestr o weminarau y gallwch gofrestru i’w gwylio’n fyw neu ar alw.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.