BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Menter newydd i helpu Busnesau Bach a Chanolig sydd wedi’u lleoli yng Nghymru

Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) yn elfen graidd o gynnig ymchwil a datblygu ac arloesedd Cymru i fusnesau, a nod y fenter hon yw gwneud KTPs yn fwy hygyrch a chost effeithiol i Fusnesau Bach a Chanolig ac annog mwy o fusnesau i elwa ar y rhaglen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyfrannu 75% tuag at gyfanswm costau prosiectau KTP sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra  ac sydd wedi’u cymeradwyo i gymryd rhan yn y rhaglen KTP. Fel arfer, disgwylir i Fusnesau Bach a Chanolig gyfrannu 33% o gyfanswm costau’r prosiect, ond dim ond 25% fydd yn rhaid i fusnesau cymwys yng Nghymru gyfrannu erbyn hyn.

Mae KTP yn helpu busnesau i wella eu cystadleurwydd, eu cynhyrchiant a’u perfformiad drwy ddefnydd gwell o wybodaeth, technoleg a sgiliau drwy ddatblygu partneriaeth â phrifysgol, coleg neu ganolfan Gatapwlt. 

Mae partneriaethau yn datblygu’r cynnig ar y cyd i fynd i’r afael ag angen busnes penodol a rhaid iddynt gyflwyno eu cynnig ar gyfer ei asesu rhwng 1 Medi 2020 a hanner dydd ar ddydd Mercher 3 Chwefror 2021. Dim ond ceisiadau a dderbynnir yn ystod y cyfnod hwn fydd yn gymwys ar gyfer yr arian hwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan KTP.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.