Ydy’ch busnes bach yn mewnforio neu’n allforio gyda’r UE? O 1 Ionawr 2022 ymlaen, os ydych chi’n symud nwyddau rhwng y DU a’r UE, bydd angen i chi wneud datganiadau tollau.
Bydd angen cymorth ar lawer o fusnesau bach yn ystod y cyfnod hwn o newid, felly mae Enterprise Nation wedi lansio Canolfan Fasnach Ryngwladol ar y cyd â Deloitte er mwyn helpu busnesau bach i fasnachu’n fwy effeithiol ac effeithlon, gan ddod o hyd i gyfleoedd newydd i werthu eu cynnyrch dramor.
Am ragor o wybodaeth ewch i Enterprise Nation.