BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Nawdd gan The Fore

group of young people smiling

Mae The Fore yn helpu’r elusennau bach hynny sy'n cael effaith fawr, a gallant gynnig cyllid digyfyngiad o hyd at £30,000 i helpu ymgeiswyr i ehangu, i gryfhau, ac i ddod yn fwy effeithlon neu gydnerth.

Mae'r rhaglen grantiau ar agor i:

  • Elusennau Cofrestredig (gan gynnwys ymddiriedolaethau elusennol, cymdeithasau anghorfforedig elusennol, sefydliadau corfforedig elusennol, a chwmnïau elusennol cyfyngedig drwy warant)
  • Sefydliadau Corfforedig Elusennol
  • Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CIC) cyfyngedig drwy warant, neu Gymdeithasau Buddiant Cymunedol

Bydd y cyfnod cofrestru yn para wythnos, o 12pm (hanner dydd) Ddydd Mercher 24 Gorffennaf 2024 tan 12pm (hanner dydd) Ddydd Mercher 31 Gorffennaf 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Apply for funding - The Fore


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.