BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

New Landscapes: Cynllun Grant Ymchwil a Datblygu Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg (FTT)

Mae'r Fashion, Textiles and Technology Institute (FTTI, UAL) yn gweithio mewn partneriaeth â'r British Council i gefnogi syniadau newydd ar gyfer dyfodol ffasiwn, tecstilau a thechnolegau cysylltiedig cynaliadwy.  

Mewn ymateb i sbardunau byd-eang, bydd y rhaglen beilot yn annog cydweithredu rhyngwladol i ail-werthuso perthynas y diwydiant â'r newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd a'r angen am dryloywder radical a chyfrifoldeb cymdeithasol.

Bydd New Landscapes: Cynllun Grant Ymchwil a Datblygu Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg (FTT), sydd werth tua £100,000, yn darparu pum grant cydweithredol o hyd at £6,000 o arian parod a hyd at £14,000 o gymorth mewn nwyddau i gynigion sy'n: 

  • Ymateb i'r pandemig Covid-19 drwy greu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio rhyngwladol a rhannu arferion gorau o ran dylunio a chynhyrchu cynaliadwy. 
  • Tyfu rhwydweithiau byd-eang i alluogi datblygiad ymarfer, arbrofi a phrofi atebion dylunio a chynhyrchu cynaliadwy sy'n ysbrydoli newid amgylcheddol cadarnhaol.
  • Cefnogi busnesau bach a chanolig (BBaChau) i gyfnewid dulliau o ddylunio a chynhyrchu mewn ffordd fwy cynaliadwy a chymdeithasol. 
  • Cefnogi dylunwyr ifanc i ddod yn eiriolwyr dros ffasiwn, tecstilau a thechnolegau cysylltiedig sy’n gynaliadwy, moesegol a chymdeithasol. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich cynigion yw 17 Hydref 2021 am 23:59.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Call for Proposals – New Landscapes Catalyst R&D Grant Scheme – Business of Fashion, Textiles and Technology (BFTT)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.