Pryderon ariannol yw’r achos mwyaf o straen i weithwyr ledled Cymru a’r DU ac maent yn niweidiol i fusnes hefyd. Mae pobl yn mynd â'u pryderon ariannol i'r gwaith, gan effeithio ar eu perfformiad a lefelau absenoldeb salwch.
Mae’r pandemig a’r cynnydd diweddar mewn costau ynni wedi dangos ei bod yn bwysicach nag erioed i sefydliadau gefnogi eu gweithwyr i adeiladu eu lles ariannol. Gwyddom hefyd fod y pandemig wedi golygu heriau sylweddol i lawer o sefydliadau, gan arwain at les ariannol yn disgyn ar y rhestr o flaenoriaethau.
Wrth i ni lywio ‘normal newydd’ drwy’r pandemig, gyda dychwelyd yn raddol i’r swyddfa a llacio mesurau cymorth y llywodraeth, mae’n amlwg na fu’r achos dros les ariannol yn y gweithle erioed yn fwy cymhellol nac amserol.
Hyd yn oed cyn COVID-19, roedd heriau sylweddol i les ariannol yng Nghymru:
- Mae 58% o oedolion yng Nghymru yn teimlo bod cadw i fyny â'u biliau a'u hymrwymiadau credyd yn faich.
- Mae 37% o oedolion yng Nghymru yn teimlo bod meddwl am eu sefyllfa ariannol yn eu gwneud yn bryderus.
- Mae gan 27% o oedolion yng Nghymru lai na £100 mewn cynilion a buddsoddiadau.
- Nid yw 42% o oedolion yng Nghymru yn teimlo'n hyderus ynghylch rheoli eu harian.
- Nid oes gan 53% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gynllun ar gyfer eu harian ar ôl ymddeol.
Hefyd; mewn ymchwil arall;
- “Mae 94% o weithwyr y DU yn cyfaddef eu bod yn poeni am arian, ac o’r rhain, mae 77% yn dweud bod pryderon ariannol yn effeithio arnynt yn y gwaith” – FFYNHONNELL: Close Brothers, The Financial Wellbeing Index (2019)
- “Mae 69% o gyflogwyr y DU yn credu bod perfformiad swydd eu gweithwyr yn cael ei effeithio’n negyddol pan fyddant dan bwysau ariannol.” - FFYNHONNELL: Neyber (2018), The DNA of Financial Wellbeing 2018
Beth yw Lles Ariannol?
Yn gyntaf; nid yw lles ariannol da yn ymwneud â faint rydych yn ei ennill. Yma yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, rydym yn ystyried lles ariannol yn ymwneud â gwneud y gorau o’ch arian o ddydd i ddydd, delio â’r annisgwyl, a bod ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol iach. Teimlo'n ddiogel, yn hyderus ac wedi'ch grymuso.
Mae arian yn chwarae rhan ym mhopeth rydym yn ei wneud mewn bywyd ac mae’n debygol fod Covid wedi effeithio ar bobl nad ydynt wedi cael pryderon yn y gorffennol.
Efallai eich bod yn meddwl nad eich cyfrifoldeb chi yw lles ariannol eich gweithwyr neu fod angen i chi fod yn arbenigwyr ym mhopeth ariannol. Nid yw hynny'n wir! Fel y gwelsom o’r ymchwil uchod, y gwir amdani yw yr hoffai eich staff i chi ddarparu’r wybodaeth hon a gweithredu fel galluogwyr, hwyluswyr a bod yn negesydd dibynadwy, ond hefyd yn tynnu ar arbenigedd a chefnogaeth sefydliadau eraill i’ch helpu i ddatblygu rhaglen lles ariannol sy'n bodloni anghenion eich gweithwyr.
Beth all cyflogwyr ei wneud i gefnogi lles ariannol yn eu gweithle?
Dyna lle gallwn ni yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) helpu! Siaradwch â ni os ydych yn pendroni ble i ddechrau neu'n edrych ar wella'r hyn rydych yn ei gynnig yn barod. Rydym yn darparu canllawiau arian a phensiynau am ddim a diduedd, teclynnau ac adnoddau i helpu pobl i wneud y gorau o'u harian a'u pensiynau trwy gydol eu hoes. O arian poced i bensiynau!
Mae gennym hefyd ein gwasanaeth HelpwrArian; yma i wneud dewisiadau arian a phensiynau yn gliriach. Yma i dorri trwy'r jargon a'r cymhlethdod, esboniwch beth sydd angen i chi ei wneud a sut gallwch ei wneud. Yma i'ch rhoi chi mewn rheolaeth gydag arweiniad diduedd sy’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth ac i argymell cefnogaeth bellach y gallwch ymddiried ynddo os oes ei hangen arnoch.
Mae MaPS wedi’i sefydlu gan y Llywodraeth i helpu i sicrhau bod pobl ledled y DU yn gallu cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau ariannol effeithiol drwy gydol eu hoes.
Cysylltwch: Rydym yn annog sefydliadau o bob maint ac o bob sector i gefnogi lles ariannol.
I ddysgu mwy am sut y gallwn helpu, cysylltwch â’ch Rheolwr Partneriaeth Cymru, Rhian Hughes yn rhian.hughes@maps.org.uk neu Ffôn: 07773045727
Ewch i'n gwefan i ddarganfod mwy am sut y gallwch gefnogi eich gweithle gyda lles ariannol - Lles Ariannol yn y Gweithle
Dysgwch fwy amdanom yn https://maps.org.uk/
Dilynwch ni ar LinkedIn, YouTube a Twitter