BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Paratowch ar gyfer Nadolig 2021 – y dyddiadau postio diweddaraf a argymhellir

Peidiwch â chael eich dal gan frys gwyllt yr ŵyl – postiwch eich llythyrau a’ch parseli mewn da bryd.

Mae cyfyngiadau Covid parhaus, llai o allu cludiant o ran awyrennau a lorïau, cynnydd yn y galw ac amodau tywydd y gaeaf i gyd yn effeithio ar gludiant a darpariaeth leol ledled y byd.

Caniatewch ddigon o amser trwy bostio eitemau ac anrhegion Nadolig yn gynnar, yn enwedig ar gyfer danfoniadau rhyngwladol

  • Dydd Gwener 17 Rhagfyr 2021 – Swmp-bost Economi'r Post Brenhinol
  • Dydd Sadwrn 18 Rhagfyr 2021 - 2il Ddosbarth, 2il Ddosbarth y llofnodir amdano, Royal Mail 48®
  • Dydd Mawrth 21 Rhagfyr 2021 – Dosbarth 1af, Dosbarth 1af y llofnodir amdano, Royal Mail 24®, Royal Mail Tracked 48®**
  • Dydd Mercher 22 Rhagfyr 2021 – Royal Mail Tracked 24®**
  • Dydd Iau 23 Rhagfyr 2021 – Special Delivery Guaranteed®

** Nid yw Royal Mail Tracked 24® na Royal Mail Tracked 48® ar gael yng nghanghennau’r Post Brenhinol®

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Post Brenhinol.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.