Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a Chonsortiwm Manwerthu Cymru wedi lansio Pecyn Adnoddau Cadernid Seiber ar gyfer Manwerthu, sef canllawiau i’w rhoi ar waith sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer arbenigwyr mewn meysydd ar wahân i seiber, fel aelodau Bwrdd, y rhai sydd mewn swyddi strategol, a busnesau newydd.
Mae’n tynnu sylw at y bygythiadau sy’n wynebu manwerthwyr, cwestiynau allweddol i’w hystyried wrth ddatblygu strategaethau cadernid seiber a chanllawiau ar y mathau o fesurau diogelwch y dylai manwerthwyr eu rhoi ar waith.
Mae’r pecyn adnoddau yn amlinellu’r camau a argymhellir ar gyfer manwerthwyr er mwyn:
- atal achosion o danseilio diogelwch drwy fesurau diogelu cryfach
- paratoi i liniaru effaith tanseilio diogelwch llwyddiannus
- dod dros ymosodiad seiber
- datblygu ac ymwreiddio diwylliant cadernid seiber positif ar lefel Bwrdd
Gallwch lawrlwytho’r pecyn adnoddau ac am ragor o wybodaeth, ewch i wefan NCSC.