Gall elusennau a busnesau bach fanteisio ar becyn e-ddysgu am ddim a fydd yn rhoi hwb i’w gallu i amddiffyn eu hunain rhag y bygythiadau a ddaw yn sgil seiberdroseddwyr.
Mae’r hyfforddiant, Cyber Security for Small Organisations and Charities, yn tywys busnesau drwy’r camau y dylent eu cymryd er mwyn lleihau’n ddramatig y risg o’r ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin, fel meddalwedd wystlo a gwe-rwydo.
Mae’r cyngor, sydd hefyd yn addas ar gyfer unig fasnachwyr a’r sector gwirfoddol, yn rhoi’r grym i sefydliadau bach nodi unrhyw wendidau posibl yn eu seilwaith ar-lein a gweithredu i’w cryfhau, gan ganolbwyntio ar bum maes:
- Cadw data wrth gefn y sefydliad yn gywir
- Diogelu sefydliad yn erbyn maleiswedd
- Cadw’r dyfeisiau a ddefnyddir gan weithwyr yn ddiogel
- Pwysigrwydd creu cyfrineiriau cryf
- Amddiffyn sefydliad yn erbyn gwe-rwydo
Am ragor o wybodaeth, ewch i: New Top Tips for staff - charities small business - NCSC.GOV.UK