BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

PRIME Cymru

Mae PRIME Cymru yn rhoi cymorth am ddim i unigolion hŷn yng Nghymru sefydlu busnes, cael hyd i swydd, neu feithrin sgiliau drwy achub ar gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli.

Ydych chi’n ystyried dechrau eich busnes eich hun? Neu efallai eich bod chi eisoes wedi dechrau ymchwilio i’r posibilrwydd o weithio i chi’ch hun, ond bod angen ychydig o arweiniad arnoch? Gall PRIME Cymru eich helpu chi.

Mae hunangyflogaeth yn aml yn ddewis addas iawn i weithwyr hŷn am y rhesymau hyn:

  • Annibyniaeth ariannol
  • Cyfle i ddefnyddio’r holl sgiliau rydych chi wedi’u meithrin drwy gydol eich bywyd gwaith
  • Oriau gwaith hyblyg
  • Cyfle i wynebu her newydd
  • Cyfle i’ch datblygu a’ch ysgogi eich hunan
  • Ffordd o fyw sy’n addas i chi

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Hunangyflogaeth - PRIME Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.