BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£1.3m i sector bwyd môr Cymru i helpu i ddelio ag effeithiau Brexit a Covid

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd gwerth £1.3m i helpu sector pysgota a dyframaethu Cymru yn dilyn y ddau argyfwng i'w busnesau a achoswyd drwy adael yr UE a phandemig Covid-19.

Bydd rhan gyntaf y cynllun yn gweld grant untro wedi'i dargedu ar gael i fusnesau pysgota cymwys sy'n berchen ar longau yng Nghymru, gyda'r grant sy'n cyfateb i gostau llongau am dri mis, wedi'i gapio ar £10,000.

Bydd y taliadau'n seiliedig ar faint y llongau a nifer y categorïau cyfatebol.

Bydd yr ail ran yn gweld cymorth yn cael ei roi i fusnesau dyframaethu, gan gynnwys y rhai sy'n masnachu mewn molysgiaid dwygragenaidd byw.
Bydd busnesau'n gallu gwneud cais am grant ar gyfer tri mis cyntaf 2021, i ddarparu hanner eu refeniw gros misol ar gyfartaledd ar gyfer pob mis, ar uchafswm o £40,500.

Bydd y cynllun ar agor ar gyfer ceisiadau o ddydd Mercher, 17 Mawrth 2021 a dydd Mercher, 31 Mawrth 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.