Oeddech chi’n gwybod bod gan tua chwarter poblogaeth y DU euogfarn? Dyna lawer o bobl â sgiliau, profiad a gwybodaeth werthfawr a all wneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas. Daw hyn ar adeg pan mae nifer o sefydliadau’n ei chael hi’n anodd recriwtio’r bobl iawn.
Trwy gynnig cyfleoedd i bobl ag euogfarnau, gall sefydliadau eu grymuso i ailgodi, i ffynnu, i wneud cyfraniad cadarnhaol yn y gymdeithas a lleihau'r tebygolrwydd o aildroseddu.
Mae canllawiau Ymddiriedolaeth y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) yn cynnwys argymhellion ymarferol a gwybodaeth i gefnogi sefydliadau i recriwtio, cyflogi a chadw gweithwyr sydd ag euogfarnau neu brofiad o fod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Recruiting, employing and retaining people with convictions - CIPD Trust