BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Recriwtio Pobl sy’n Gadael Carchar: Uwchgynhadledd Cyflogwyr 2021

Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal digwyddiad rhithwir rhyngweithiol am ddim i gefnogi busnesau o bob sector sydd â diddordeb mewn recriwtio pobl sy’n gadael carchar.

Cewch gyfle i glywed gan fusnesau blaenllaw sydd eisoes yn cael budd o recriwtio pobl sy’n gadael carchar, yn cynnwys Timpson, Greene King a Greggs.

Bydd y brif sesiwn yn sôn am lenwi eich bylchau sgiliau drwy recriwtio o garchardai, ac yna bydd tri gweithdy a fydd yn trafod amrywiaeth a chynhwysiant, logisteg carchardai, a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Cynhelir y digwyddiad ar 21 Hydref 2021.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i  Recruiting Prison Leavers | Employers Summit 2021 (seewhatsontheinside.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.