BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Arloesi Gofod Genedlaethol – Kick Starter – Galwad 1

Female Engineer uses Computer to Analyse Satellite, Calculate Orbital Trajectory Tracking.

Mae Asiantaeth Ofod y DU yn gwahodd cynigion ar gyfer ymchwil a datblygu technoleg newydd ac arloesol o dan ei Rhaglen Arloesi Gofod Genedlaethol (NSIP).

Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle i sector gofod y DU ddatblygu arloesiadau masnachol newydd a gwerthfawr a allai fynd i'r afael â heriau fel defnyddio data lloeren i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd neu ddarparu gwasanaethau i wneud cymwysiadau mewn orbit yn fwy cynaliadwy.

Mae'r gyfran gyntaf o hyd at £34 miliwn o gyllid yn agored i gynigion a fydd yn gyrru arloesedd, yn cyflymu'r llwybr i'r farchnad, ac yn sbarduno buddsoddiad yn sector gofod y DU. Bydd gweddill y cyllid yn cael ei rannu ar draws galwadau pellach yn 2024 a 2025, gyda phrosiectau'n cael eu cynnal tan fis Mawrth 2027.

Bydd sesiwn ar-lein yn esbonio’r broses ymgeisio ac yn ateb unrhyw gwestiynau ar 17 Hydref 2023, archebwch eich tocynnau trwy Eventbrite

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol National Space Innovation Programme – Kick Starter – Open Call (Call 1) - GOV.UK (www.gov.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.