Mae Clore Social Leadership, mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru, wedi lansio rhaglen datblygu arweinyddiaeth newydd ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru yn 2021.
Mae’r rhaglen am ddim, yn cael ei chynnal ar-lein ac ar gael i arweinwyr cymdeithasol ac arweinwyr y dyfodol o fewn y trydydd sector ym mhob rhan o Gymru.
- Emerging Leader Cymru – dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, 12 Gorffennaf 2021
- Experienced Leader Cymru – dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, 19 Gorffennaf 2021
- Board Leader Cymru – dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, 26 Gorffennaf 2021
- New Manager Cymru – dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, 6 Medi 2021
- Digital Leader Cymru – dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, 4 Hydref 2021
- Community Leader Cymru – ddim ar agor eto ond gallwch gofrestru eich diddordeb
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Clore Social.