BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru Wedi’i Ymestyn Hyd 2025

Mae rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n bodoli i ostwng eithrio digidol yng Nghymru wedi cael ei hymestyn am dair blynedd arall, hyd 2025.

Cychwynnodd Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles yn 2019 ac mae’n cael ei darparu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru mewn partneriaeth â Good Things Foundation a Phrifysgol Abertawe. Mae’n cynnig cymorth i unrhyw sefydliad i’w helpu i ddatblygu prosiectau cynhwysiant digidol ac i gynyddu hyder a sgiliau digidol y bobl y maen nhw’n gweithio â hwy. Mae’n rhaglen allweddol o ran helpu cyflawni gweledigaeth, nodau ac amcanion Strategaeth Ddigidol i Gymru gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen wedi cefnogi mwy na 1,600 o sefydliadau ledled Cymru yn barod, gan olygu bod mwy na 75,000 o bobl wedi elwa o gyfleoedd sydd wedi newid eu bywydau am eu bod wedi mynd ar-lein – er enghraifft, canfod a chadw swyddi, defnyddio’r gwasanaethau iechyd, gostwng unigrwydd a theimladau ynysig a gwella eu lles yn gyffredinol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru Wedi’i Ymestyn Hyd 2025 (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.