BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Grant Cyfalaf ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd bellach ar agor

Mae Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid 2022 i 2023 Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd bellach ar agor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb.

Bydd y grantiau hyn yn galluogi sefydliadau llwyddiannus i drawsnewid y modd y darperir gwasanaethau er mwyn cynnig cyfleusterau a gwasanaethau cynaliadwy, modern a deniadol mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol ledled Cymru. 

Mae gwybodaeth am y cynllun grant a sut i wneud cais ar gael isod:

Bydd angen cyflwyno datganiadau o ddiddordeb erbyn canol dydd 13 Medi 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.