BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen newydd i helpu mwy o gwmnïau o Gymru i allforio'n fyd-eang

Mae rhaglen newydd i helpu cwmnïau o Gymru nad ydynt erioed wedi allforio o'r blaen i werthu eu cynnyrch mewn marchnadoedd rhyngwladol newydd yn cael ei lansio gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Bydd y Rhaglen Allforwyr Newydd, sy'n un o'r mentrau cymorth newydd sy'n cael ei chyflwyno fel rhan o gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Allforio, yn cefnogi cwmnïau nad ydynt erioed wedi allforio o'r blaen neu sydd wedi allforio'n ysbeidiol, i werthu eu nwyddau a'u gwasanaethau ledled y byd.

Mae deg cwmni o wahanol sectorau ledled Cymru yn cael eu recriwtio i'r rhaglen, a fydd yn para tua 10 mis. Byddant yn cael cymorth dwys i ddatblygu eu capasiti a'u gallu i allforio, gan eu helpu i ddod yn allforwyr rheolaidd.

Bydd y cymorth yn canolbwyntio ar allforio i Iwerddon i ddechrau, a fydd yn gweithredu fel marchnad gychwynnol i'r cwmnïau sy'n cymryd rhan. Bydd yn cynnwys ymweliad â'r farchnad, lle bydd cwmnïau'n cwrdd â chysylltiadau busnes posibl, gyda chymorth Swyddfa Dulyn Llywodraeth Cymru. Bydd y rhaglen yn rhedeg yn flynyddol.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.