Oes gennych chi fusnes newydd sbon sy'n datblygu cynnyrch cynaliadwy ac arloesol i ddefnyddwyr?
Am gyfle i gael grantiau arian parod, gwnewch gais i ymuno â Rhaglen Sbarduno Cynaliadwyedd Amazon, sy’n cael ei chyflwyno am y trydydd tro. Mae'r rhaglen sbarduno yn rhaglen ddeg wythnos bwrpasol, wedi'i chynllunio i gefnogi sylfaenwyr busnesau eco-ymwybodol newydd i ddatblygu eu cynnyrch a thyfu eu busnes.
Mae'r rhaglen yn un hybrid, ac yn cynnwys sesiynau rhithwir a digwyddiadau wyneb yn wyneb; gyda thair wythnos allweddol wyneb yn wyneb mewn canolfannau cynaliadwyedd allweddol ledled Ewrop - Berlin, Amsterdam a Llundain.
31 Gorffennaf 2024 yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau a bydd y rhaglen yn dechrau ar 16 Medi 2024.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Amazon Sustainability Accelerator: Maximise your Impact