BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Sbarduno Lab gan Trafnidiaeth Cymru ar agor

Mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn rhoi cyfle anhygoel i chi uwchsgilio ac uwchraddio eich busnes a mireinio, datblygu a lansio eich cynnyrch i’w farchnata a sicrhau contract gwaith!

Os ydych chi’n entrepreneur, yn gwmni newydd, neu’n gwmni sy’n uwchraddio gyda; chynnyrch neu gynnyrch ar y camau cynnar, y gellir ei ddatblygu i wella’r profiad i deithwyr Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, rydym yn credu y byddai’r rhaglen yn gweddu’n dda i chi. 

Gallwch wneud hyn mewn dim ond 12 wythnos gyda Lab gan Trafnidiaeth Cymru (LTrC) - y rhaglen gyflymu arloesi gan TTrC.

LTrC yw’r unig ddarparwr penodol ar gyfer arloesi ar y rheilffyrdd yng Nghymru - ac maent yn recriwtio ar gyfer Cohort 4 eu cyflymydd arloesi o bell.

Gwnewch gais cyn hanner nos 21 Ionawr 2022, mae Cohort 4 yn dechrau ym mis Chwefror 2022.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i https://tfwlab.wales/cy/


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.