Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r Model Gweithredu Targed drafft (TOM), gan amlinellu sut mae'n bwriadu cyflawni Strategaeth Ffiniau 2025. Bydd hyn yn effeithio ar fewnforio nwyddau iechydol a ffytoiechydol (SPS) o'r UE (Gweriniaeth Iwerddon, yn bennaf) trwy borthladdoedd Cymru.
Mae nwyddau SPS yn cynnwys:
- Planhigion
- Cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid
- Anifeiliaid byw
- Bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid
Byddant yn destun gwiriadau ychwanegol ar bwyntiau mynediad i ddiogelu bioddiogelwch a diogelwch bwyd.
Bydd gwiriadau'n cael eu cynnal mewn safleoedd rheoli ffiniau, sy'n cael eu datblygu i wasanaethu porthladdoedd:
- Caergybi yng Ngogledd Cymru
- Doc Penfro ac Abergwaun yn Ne-orllewin Cymru
Mae bioddiogelwch yn fater datganoledig, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â’r llywodraethau eraill er mwyn datblygu model ar gyfer Prydain Fawr gyfan.
Bydd y Model Gweithredu Targed yn pennu sut y bydd y drefn newydd hon o reoli ffiniau yn gweithio.
Mae cyfle i bawb sydd â diddordeb, gan gynnwys yr holl randdeiliaid sy'n ymwneud â masnachu nwyddau SPS, i roi adborth cyn y cyhoeddiad terfynol.
Darganfyddwch ragor a rhannwch eich barn,cliciwch y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Safleoedd Rheoli Ffiniau (5 Ebrill 2023) | LLYW.CYMRU