BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheoli iechyd a diogelwch gweithwyr cartref

Mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch ar gyfer rhai sy'n gweithio gartref ag unrhyw weithiwr arall.

Mae canllawiau gweithio gartref yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gyfer unrhyw un sy'n cyflogi gweithwyr cartref, gan gynnwys rhai sy'n rhannu eu hamser rhwng eu gweithle a'u cartref (gweithio hybrid).

Mae'r canllawiau hyn wedi'u hailwampio a'u hehangu i roi mwy o fanylion am gamau syml i reoli iechyd a diogelwch gweithwyr cartref.

Mae hyn yn cynnwys peryglon gweithio gyda chyfarpar sgrîn arddangos (DSE) gartref yn ogystal â straen ac iechyd meddwl gwael.

Mae cyngor hefyd i weithwyr cartref eu hunain, yn ogystal â fideo ac awgrymiadau ymarferol ar osgo da wrth weithio gyda chyfarpar sgrîn arddangos. 

Mae rhagor o fanylion ar wefan HSE 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.