BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rownd 4 y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol

Aberystwyth

Bydd cyfle i bobl ledled Cymru ddod yn berchenogion tafarndai, theatrau, swyddfeydd post, meysydd chwaraeon, adeiladau Swyddfa’r Post a siopau cornel sydd mewn perygl o gael eu cau, gyda lansiad Rownd 4 Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU.

Mae Rownd 4 Ffenestr 1 yn agored a bydd yn cau ar 10 Ebrill 2024, a gallwch gyflwyno datganiad o ddiddordeb (expression of interest) nawr. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Community Ownership Fund round 4: prospectus - GOV.UK

Bydd Rownd 4 Ffenestr 2 yn agor ddiwedd mis Mai. Bydd amseriadau penodol ar gyfer y ffenestr olaf yn cael eu cyhoeddi, maes o law.

I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa, dewiswch y ddolen ganlynol: New levelling up and community investments - GOV.UK 

Mae cymorth datblygu ar gael bellach i ymgeiswyr drwy wefan MyCommunity, sef y partneriaid cyflwyno swyddogol ar gyfer rhaglen gymorth y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol: Cyngor a Chymorth ar y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol - MyCommunity


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.