BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Mentrau Busnes – Adolygiad 2021

Mae Instructus Skills wedi’u contractio i adolygu’r gyfres Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Mentrau Busnes gyda’r nod o ddiweddaru’r cynnwys a’i fod yn dilyn arferion gorau presennol.

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol presennol yn amlinellu’r swyddogaethau amrywiol a’r meysydd cymhwysedd ar gyfer rolau swyddi mewn Mentrau Busnes a gwahoddir safbwyntiau a barn gan entrepreneuriaid, busnesau bach a chyflogwyr i roi safbwynt byd go iawn ar ba mor dda mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn cael eu cymhwyso - a sut y gellir eu gwella.

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn bwysig ar gyfer proffiliau swyddi, gwerthusiadau, rhaglenni dysgu, ac unedau ac maent hefyd yn sail i gymwysterau a phrentisiaethau.

Dolen i’r arolwg: https://survey.zohopublic.com/zs/vHChjf

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Instructus Skills
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.