BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

SatelLife 2022

Mae Asiantaeth Ofod y DU yn cynnig cyngor arbenigol i bobl ifanc ar eu syniadau ynglŷn â sut y gallai lloerennau wella bywyd ar y Ddaear. Hefyd, mae'n cynnig cyfran o wobr gwerth £50,000, sydd i'w rhannu ar draws tri grŵp oedran; 11 i 14, 15 i 18 a 19 i 22.

Mae Prydain yn paratoi i lansio lloerennau am y tro cyntaf erioed eleni, ac mae Cystadleuaeth SatelLife yn chwilio am y syniadau newydd gorau ar gyfer sut i ddefnyddio data sy'n cael ei gasglu o’r gofod er budd bywyd bob dydd, o gefnogi cymunedau lleol a'r GIG, i fonitro'r amgylchedd a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Mae'r gystadleuaeth bellach yn ei phumed flwyddyn, ac mae syniadau buddugol yn y gorffennol yn cynnwys dronau yn cludo cyflenwadau meddygol, bathodyn pin i fonitro llygredd aer ac ap i olrhain trolïau siopa sydd wedi'u gadael.

Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw 17 Mawrth 2022.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i SatelLife Competition 2022: how to enter and other resources - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.