BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sioe deithiol rithwir Dydd Sadwrn Busnesau Bach y DU

I gymryd lle taith bws flynyddol Dydd Sadwrn Busnesau Bach, bydd Dydd Sadwrn Busnesau Bach y DU yn lansio sioe deithiol ar-lein gyntaf y DU, gan ymweld yn rhithwir â threfi a dinasoedd yr effeithir arnyn nhw gan y pandemig, gan gynnig cefnogaeth a mentora am ddim i fusnesau bach!

Gyda'r nod o gefnogi, annog a rhoi hwb i fusnesau bach sy'n wynebu her ail don o gyfyngiadau Covid-19, bydd y daith ar-lein yn rhan ganolog o'r cyfri swyddogol i Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ar 5 Rhagfyr 2020.

Bydd y cyfan yn cychwyn ar 2 Tachwedd 2020 gydag 'ymweliadau rhithwir' dyddiol, yn cwrdd â busnesau bach a chymunedau mewn dros ddeg ar hugain o leoliadau ledled y DU ac yn clywed ganddyn nhw drwy’r sianeli cymdeithasol.

Bydd y daith yn cynnig rhaglen o gyngor, gweithdai a mentora ar-lein wedi'u targedu'n lleol, gan gynnwys:

  • cyngor rhith-fentora am ddim ar ystod o bynciau, o farchnata digidol, i reoli amser ac arian
  • cyfweliadau byw gyda busnesau lleol, arbenigwyr, pwysigion a chefnogwyr wedi'u ffrydio trwy dudalen Facebook Dydd Sadwrn Busnesau Bach
  • darllediad cynigion y dydd a gwerth chweil yn yr ‘Awr Lawen’
  • gweithdai rhyngweithiol gydag arbenigwyr busnes lleol

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Dydd Sadwrn Busnesau Bach.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.