BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Start Up 2022

Awydd bod yn fos arnoch chi'ch hun? Oes gennych chi syniad busnes neu eisiau gwella'ch sgiliau mentergarwch? Os felly, dyma'r digwyddiad i chi.

Mae Start Up 2022 yn gwbl hanfodol i ddarpar entrepreneuriaid o bob math. Mae'n gyfle nid yn unig i ddysgu popeth sydd angen ei wybod am ddechrau busnes a’i ddatblygu, ond i gysylltu â chynghorwyr ac arbenigwyr a fydd yn helpu i fynd â'ch menter i'r lefel nesaf.

Ymunwch â'r digwyddiad rhithwir hwn ddydd Gwener 21 Ionawr 2022 gyda mynediad at gant a mwy o entrepreneuriaid ysbrydoledig ac arbenigwyr ar fusnesau bach ar draws 11 o lwyfannau rhithwir gwahanol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i StartUp 2022: sioe fwya'r flwyddyn newydd i fusnesau newydd y DU - Tocynnau, Dydd Gwener 21 Ionawr 2022 am 09:30 | Eventbrite 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.