
Dydy sgamwyr ddim yn gwahaniaethu. Fe wnân nhw dargedu unrhyw un.
Does neb yn ddiogel rhag twyll. Mae’r troseddwyr sydd wrth ei wraidd yn targedu pobl ar-lein ac yn eu cartref, gan ddylanwadu’n emosiynol ar ddioddefwyr yn aml cyn dwyn arian neu ddata personol.
Ond fe allwn ni wneud rhywbeth. Drwy fod yn wyliadwrus a chofio stopio, meddwl a gwirio bob tro y bydd rhywun yn gofyn i ni am rywbeth, fe allwn helpu i ddiogelu ein hunain a’n gilydd rhag twyll.
Amddiffynnwch eich cyfrifon ar-lein â phroses dilysu 2-gam - sydd hefyd yn cael ei alw’n 2SV neu 2FA, ymlaen ar eich cyfrifon pwysig heddiw i cadwch droseddwyr i ffwrdd. Mae troi 2SV neu 2FA ymlaen yn rhoi lefel ychwanegol o ddiogelwch i’ch cyfrifon pwysicaf, yn enwedig eich e-bost, hyd yn oed os ydynt yn gwybod eich cyfrinair.
Gallwch ei droi ymlaen mewn ychydig funudau – amser sy’n werth ei roi er mwyn cadw’r twyllwyr draw.
Dysgwch beth gallwch ei wneud heddiw i helpu i’ch diogelu chi, eich anwyliaid a’ch busnes rhag twill: Hafan - Stop! Think Fraud