Nod lansio gweithgarwch diweddaraf ymgyrch Diogelu Cymru Llywodraeth Cymru, heddiw (ddydd Llun 6 Rhagfyr), yw ‘torri’r trosglwyddiad’ er mwyn helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu.
Bydd hysbysebion ar y teledu a’r radio, yn y wasg ac mewn mannau cyhoeddus, yn ddigidol ac ar y cyfryngau cymdeithasol am y pum wythnos nesaf, er mwyn annog pobl i barhau i ddilyn y mesurau sydd ar waith i gadw pawb ohonom yn ddiogel.
Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar bwysigrwydd masgiau wyneb, brechiadau, profion, a hunanynysu, a bydd yn hyrwyddo negeseuon ychwanegol i bwysleisio pwysigrwydd awyru, a defnyddio profion llif unffordd cyn cymdeithasu.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru