Bydd y Prif Weinidog Eluned Morgan yn cwrdd â busnesau a buddsoddwyr rhyngwladol yn yr Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol yn Llundain heddiw.
Yr Uwchgynhadledd yw prif ddigwyddiad buddsoddi Llywodraeth y DU, gan ddod â 300 o arweinwyr diwydiant ynghyd i drafod buddsoddi ac arddangos y cryfderau sy'n bodoli ar draws gwledydd y DU. Bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod buddsoddwyr presennol a darpar fuddsoddwyr i Gymru yn yr Uwchgynhadledd.
Mae 1,480 o gwmnïau tramor yng Nghymru, sy'n cyflogi bron i 175,000 o bobl, gan gynnwys mewn diwydiannau twf fel lled-ddargludyddion cyfansawdd, technoleg ariannol, seiberddiogelwch, ynni morol, gweithgynhyrchu'r genhedlaeth nesaf a gwyddorau bywyd.
Mae buddsoddiadau tramor mawr wedi eu cyhoeddi yng Nghymru yn ddiweddar. Y mis diwethaf, cyhoeddodd y cwmni mawr o Dwrci Eren Holdings fuddsoddiad gwerth £1 biliwn a fydd yn sicrhau 300 o swyddi ar Lannau Dyfrdwy, gyda chefnogaeth gan Lywodraethau'r DU a Chymru. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Kellanova, y cwmni rhyngwladol Americanaidd sy'n cynhyrchu grawnfwydydd brecwast Kellogg’s, fuddsoddiad o £75 miliwn a fydd yn creu 130 o swyddi newydd yn Wrecsam.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Uwchgynhadledd yn arddangos Cymru i fuddsoddwyr rhyngwladol | LLYW.CYMRU