BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

VisitBritain: lansio cronfa gymorth i ddigwyddiadau busnes domestig

Bydd cronfa newydd sy'n cefnogi adferiad y diwydiant digwyddiadau yn rhoi cymorth ariannol i sefydliadau nid-er-elw sy'n cynnal digwyddiadau busnes domestig rhwng 21 Mehefin ac 17 Rhagfyr 2021.

Mae'r Gronfa Cymorth Domestig (Domestic Support Fund) newydd wedi'i chynllunio i gynnig cymorth ariannol i roi hwb cychwynnol i ddigwyddiadau busnes a dangos bod y DU yn barod i gyfarfod eto ac wedi addasu i ffyrdd newydd o gyfarfod mewn amgylchedd COVID-19 diogel.

Mae cymorth ariannol yn seiliedig ar nifer y cynrychiolwyr sy'n mynychu digwyddiad byw, neu elfen fyw digwyddiad hybrid. Gall sefydliad digwyddiadau wneud cais am £30 y cynrychiolydd (arian parod yn cynnwys TAW) sy'n mynychu digwyddiad. Bydd ceisiadau cymeradwy yn derbyn cymorth ariannol, ar ôl i'r digwyddiad gael ei gynnal ac ar ôl cyflwyno tystiolaeth sy’n cefnogi cyfanswm nifer y mynychwyr.

Mae'r cymorth hwn, a gynigir fel cynllun grant 'Small Amount of Financial Assistance', ar gael ar gyfer digwyddiadau o rhwng 100 a 500 o bobl, hyd at uchafswm o £15,000 o gymorth.

Mae angen cynnal yr holl weithgareddau o fewn y dyddiadau 21 Mehefin i 17 Rhagfyr 2021 a'ch bod yn darparu tystiolaeth erbyn 1 Mawrth 2022.

Am ragor o wybodaeth ewch i Visit Britain.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.